GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH

 

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd am 11.30 ar 29 Ionawr 2014 yn Nhŷ Hywel

YN BRESENNOL:

Janet Finch-Saunders AC (JFS)

Cadeirydd

Keith Davies AC (KD)

Aelod

Mark Isherwood AC (MI)

 

Tom Evans (TE)

Ardal Gwella Busnes Casnewydd

Alan Edwards (AE)

Siambr Fasnach Casnewydd

Adrian Roper (AR)

Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd

Mair Roberts (MRR)

Ysgrifennydd

Shane Brennan (SB)

Y Gymdeithas Siopau Cyfleus

Neil Moss (NM)

Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Manwerthu

William Lloyd Williams (WLW)

Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd

Nathan Walmsley

Filco Supermarkets

Mark Roberts (MR)

The Co-operative Group

Michael Weedon

Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain

Craig Lawson (CL)

Suzy Davies AC

Sophie Traherne (ST)

Swyddfa'r Grŵp Ceidwadol

Owen Davies (OD)

Owen Davies Consulting

Chris Jones (CJ)

Chris Jones Regeneration

Chris Wade (CW)

Action for Market Towns

Mike Cisuelo (MC)

Booker Wholesale

 

 

 

2.CYFLWYNIAD

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i ail gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol (CPG) a chyflwynodd CW, OD a CJ, a fyddai'n sôn am eu profiadau o brosiectau adfywio ledled Cymru. 

 

2.CYFLWYNIADAU GAN ACTION FOR MARKET TOWNS

 

Cafwyd cyflwyniadau gan CW o Action for Market Towns a'r ymgynghorwyr adfywio OD a CJ ar brosiectau adfywio ledled Cymru.

 

Agorwyd y cyflwyniad gan CW, a roddodd drosolwg cyffredinol o bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth mewn prosiectau adfywio stryd fawr yng Nghymru a rhoi pwyslais ar dwf. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i ddeall anghenion penodol tref neu ddinas wrth wneud gwaith adfywio.  Pwysleisiwyd bod parcio yn broblem sy'n wynebu llawer o fusnesau annibynnol yn nhrefi Cymru.

 

Yna rhoddodd OD a CJ enghreifftiau penodol o bartneriaethau canol tref llwyddiannus yng Nghymru. Yr astudiaethau achos a ddefnyddiwyd oedd: Dolgellau, Bangor, Castell-nedd ac Ystradgynlais. Amlygwyd, mewn rhai achosion, bod nifer o grwpiau busnes ac adfywio yn bodoli mewn tref ond yn methu â gweithio gyda'i gilydd.  Argymhellwyd y dylai'r grwpiau hyn gydweithio er mwyn cyflawni canlyniadau cyson.

 

Trafodaeth

 

Yn dilyn y cyflwyniad, trafodwyd nifer o faterion:

 

Ardaloedd Gwella Busnes

 

Cafwyd trafodaeth fer ar ddiben Ardaloedd Gwella Busnes (AGB) a'r hyn y maent yn gallu ei gyflawni. Rhannodd TE o AGB Casnewydd y sylw bod llawer o grwpiau yn ceisio cyflawni'r un canlyniadau ar gyfer adfywio'r ddinas cyn creu AGB Casnewydd. Ei gasgliad ef oedd bod yr AGB yn ffordd adeiladol o ddod â gwahanol randdeiliaid at ei gilydd i gyflawni'r un nod.

 

Amser ac adnoddau

 

Nodwyd gan WLW bod nifer o fanwerthwyr yn ei chael yn anodd gallu cymryd amser i ffwrdd o redeg eu busnes i fynychu cyfarfodydd, fel cyfarfodydd AGB.  Roedd hefyd yn ofni fod yna apathi ymhlith rhai manwerthwyr annibynnol o ran y materion hyn.

 

Arweiniad

 

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd rôl arweinydd effeithiol mewn partneriaethau canol tref gan sawl aelod o'r grŵp. 

 

Yn y pen draw, cytunwyd bod llwyddiant partneriaeth yn dibynnu ar uno grwpiau sydd eisoes yn bodoli mewn ardal benodol; byddai hyn yn creu cydlyniant o ran y nodau sydd eu hangen i adfywio canol y dref dan sylw.

 

Cyfarfodydd y dyfodol

 

Cytunwyd mai pwnc y cyfarfod nesaf yn y gwanwyn fydd cynllunio, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Bil Cynllunio ar hyn o bryd.

 

Cytunwyd hefyd y bydd derbyniad yn cael ei gynnal yn y Senedd ym mis Gorffennaf i ddathlu cyfraniad siopau bach i economi Cymru. Estynnir gwahoddiad i'r digwyddiad i Aelodau'r Cynulliad, cynrychiolwyr o gyrff masnach manwerthu bach a'u haelodau sy'n gweithredu yng Nghymru.

 

Daeth JFS â'r cyfarfod i ben.